Car Gwyllt
Nid Mustang nac Ferrari, ond tamaid main o bren wedi ei osod ar olwyn a rhoden o haearn trwyddo, yn rasio i lawr mynydd yng Nghymru ar 50 milltir yr awr.
Roedd cludo llechi i lawr y mynyddoedd o chwareli uchel Ffestiniog yn gamp gywrain o beirianwaith Fictoraidd. Darparwyd yr ynni gan wagen llawn llechi’n mynd i lawr, ac yn tynnu wagen wag i fyny ar bâr o gledrau cul a redai hyd yr inclên. Rhwng pob pâr o gledrau roedd rhaffan ddur yn rhedeg ar roleri, a gysylltai’r wagenni dibynnol.
Roedd gan chwarel Graig Ddu, i’r gogledd o’r Manod Mawr, dair inclên i gyrraedd i lawr i’r ffordd, a phedwerydd i gysylltu gyda’r rheilffordd oddi tanodd a redai i’r Blaenau. Dyma’r ffordd i’r farchnad. Hefyd, dyma’r ffordd cyflymaf adref i’r chwarelwyr wedi diwrnod caled o waith.
Gofynnais i Emrys Evans, a fu’n brentis yn y chwarel ym 1933, faint o gyflym oedd y ceir yn mynd i lawr yr incleiniau. “Fedrai’m dweud wrthoch chi mewn eiliadau, ond gallaf ei ddisgrifio fel hyn. Ar ddiwedd y shifft, cai’r dynion osod eu ceir ar y trac, a chyn gynted ac ai gorn pedwar o’r gloch chwarel yr Oakley, i ffwrdd a nhw. Byddai’r rhan fwyaf o’r dynion yn cychwyn o’r ail inclên. Gallent wneud y ddwy inclên yma, rhedeg rhyngddynt, rhoi’r car mewn wagen wag, a chyrraedd arosfa'r bysiau erbyn yr amser roedd y bws i’r Blaenau’n gadael pum munud wedyn. Roedd y bysiau’n brydlon iawn y dyddiau hynny!”
Hyd yr incleiniau i’r ffordd oedd 1,800 o lathenni, gan ddisgyn 1,040 o droedfeddi. Yn ôl pob sôn roedd posib gwneud y siwrnai, gan gynnwys y rhannau cyswllt, mewn wyth munud.
Roedd y car gwyllt yn beth newydd a dywedi’r mae gof y chwarel a’i dyfeisiodd yn y 1870au. Rhedai rhwng dau bâr o gledrau wedi eu gwahanu gan fwlch o dair troedfedd, ac yn bwysicach, heb unrhyw rwystrau tebyg i’r rholeri rhwng y traciau cul.
Doedd y car yn fawr o beth. Tamaid o bren rhyw ddwy droedfedd o hyd ac wyth modfedd o led, gydag olwyn gantel haearn tua’r blaen a sawdl siâp “v” o haearn yn y cefn. Estynnai far haearn allan o ganol yr astell drosodd i’r trac arall er cael cydbwysedd. Brêc fyddai’n rheoli’r cyflymdra, ac fe’i ffurfiwyd fel coes haearn rhwng pen-gliniau’r gyrrwr, a byddai symud y goes yn achosi gwadn y brêc i rwbio yn erbyn yr olwyn. Weithiau roedd sodlau esgidiau’n cael eu defnyddio hefyd!


