Brithyll Uchel
Dringo mynyddoedd, pysgota a choginio yw tri o fy hoff bethau a dydd Sadwrn daethant at ei gilydd wrth imi fynd ar daith dan arweiniad o amgylch rhai o lynnoedd uchel Gymdeithas Enweiriawl y Cambrian. Roedd ein harweinydd mynydd yn mynd i’n hyfforddi sut i ddod o hyd i’r ffordd, a sut i ddod i lawr mynydd yn ddiogel mewn tywydd garw, a’r pysgotwyr am ddangos inni ble, a sut i ddal brithyll brown gwyllt.
I ffwrdd a ni o faes parcio Cwmorthin gyda phecynnau bwyd, mapiau a chwmpodau, a Mel, o’r Gymdeithas gyda genwair ysgafn 6 darn i bysgota plu. Mae’r pysgod yn Llyn Cwmorthin yn niferus ond gan amlaf, braidd yn fach i’w bwyta. Roedd Bob Cole, ein harweinydd mynydd a pherchennog Bistro Moelwyn, yn ceisio dyfalu tybed a fyddent yn gwneud cwrs cyntaf da.
Y tu allan i fynedfa mwynglawdd Cwmorthin safai hen gwt cwch sydd wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd, pan falwyd y cwch oedd yno. Mae cynlluniau ar y gweill i’w hadfer a darparu cwch newydd i aelodau’r Gymdeithas bysgota.
Mae natur yn araf adennill adfeilion yr hen gapel a thŷ’r rheolwr (chwarel) ym mhen draw’r cwm, tra bod drysau a ffenestri’r felin lechi wedi cael eu cau i ffwrdd i wneud corlannau i’r defaid. Safai bileri anferth i’r chwith o’r llwybr sy’n dangos inni ble byddai’r cafn ddŵr oedd yn gyrru’r olwyn a’r peiriannau.
Dringo wedyn i fyny ac allan o’r cwm i chwarel y Rhosydd, gyda chwarel Croesor i’w gweld yn y pellter. Eglurodd Bob wrthym am y ffordd danddaearol sy’n cysylltu’r ddwy chwarel, ac sy’n cymryd wyth awr i’w cherdded o’i gymharu ag ugain munud ar y wyneb. “Fuaswn i’m yn ei hargymell i neb. Roedd yn beryglus iawn pan wnes i o flynyddoedd yn ôl, ac mae’n rhaid ei fod wedi dadfeilio ymhellach. Mae craig serth i’w habseilu a rhaid cael cwch i groesi’r llyn tanddaearol”.
Cerddasom wedyn i Lyn Cwm Corsiog, sy’n anodd ei bysgota ar ddiwedd haf oherwydd tyfiant y chwyn, ond gellir cael pysgod gweddol fawr yn y mannau clir. Codwyd lefel y llyn gyda muriau argae fel llawer o lynnoedd eraill yn y mynyddoedd yma - rhaid oedd cael cyflenwad parhaol i’r diwydiant llechi.
Mae’r Ddeddf Cronfeydd Dŵr yn rheoli cronfeydd sydd o faint arbennig, ac un o’r gofynion yw bod rhaid cael archwiliad blynyddol o’r adeiladwaith gan beiriannydd. Golygai hyn wario arian wrth gwrs, ac i fod yn eithriedig o’r rheoliad hwn, rhaid oedd gostwng muriau’r argae i ddod a’r llyn y tu allan i’r ddeddfwriaeth.


