Trefi a phentrefi
Heb ots nac oni bai adeiladwyd Blaenau Ffestiniog ar y diwydiant llechi ac mae chwyth achlysurol seiren yn eich atgoffa o hynny. Mae’r etifeddiaeth fwyngloddio gadarn hon yn ysbrydoli pobl mewn llawer ffordd - yn gartref i gyn Fardd Cenedlaethol Cymru, 2 gôr meibion a seindorf arian.
Wedi’i hamgylchynu gan borfeydd a choetir derw mae naws gwledig i Llan Ffestiniog. Mae’r golygfeydd a gewch oddi yno i lawr y cwm i’r arfordir yn rhagorol. Pan gaewyd tafarn y pentref a’i rhoi ar werth daeth y gymuned ynghyd a’i phrynu fel cwmni cydweithredol er mwy ei chadw yn ganolfan i fywyd y pentref.
Saif Trawsfynydd ar hen groesffordd y llwybr oes efydd o Iwerddon i Gôr y Cewri a’r ffordd Rufeinig yn cysylltu eu caerau. Mae’r llyn, sef yr un mwyaf yng Nghymru yn ôl arwynebedd, yn cynhyrchu trydan hydro-electrig ac roedd yn arfer oeri adweithyddion yr atomfa a gaeodd ym 1991.
Adeiladwyd Maentwrog,a enwyd yn ôl y chwedl ar ôl y maen a daflwyd gan y cawr Twrog, ar gyfer ystâd Tan-y-Bwlch ac mae’r pentref i’w weld yn glir o’r plas - gofynnwyd i’r trigolion beidio â rhoi eu dillad i sychu ar y lein ar ddydd Llun rhag sbwylio’r olygfa i westeion a ddaeth am y penwythnos.
Penrhyndeudraeth,yw cartref y Gwaith Powdwr lle y gwnaed 17 miliwn o grenadau! Erbyn hyn mae’n warchodfa natur hawdd mynd iddi ac mae sied y pendil balistig yn lle da i wylio adar fel troellwyr mawr.
Mae Porthmadog yn bentref glan môr byrlymus llawn cymeriad a phethau i’w darganfod. I selogion rheilffyrdd treftadaeth prin bod unman gwell na’r gyffordd hon – lle mae’n rhaid ymweld ag ef. Mae’r Cob yn lle poblogaidd i wylio adar, pwy a ŵyr efallai y gwelwch chi walch y pysgod yn dal hyrddyn.


