English

Cyrraedd yma a mynd o gwmpas


footpath

Mae gan Dyffryn Ffestiniog a Phorthmadog bopeth sy’n dda a diddorol am gyrchfannau tramor. Cewch holl gyffro teithio ond heb ddim o’r ffwdan - mae cyrraedd yma’n rhan o’r hwyl.

Mae Rheilffyrdd y Cambrian yn dod â phobl trwy’r Canolbarth i Aberdyfi ac yna i fyny’r arfordir mor bell â Phwllheli gan gysylltu â Rheilffordd Ffestiniog ym Minffordd a Phorthmadog. Daw mapiau darluniadol â’r golygfeydd o’r trên yn fyw a phan fydd tymor yr haf ar ei anterth bydd gwasanaeth ager fel arfer yn gweithio ar hyd y darn arfordirol.

O Landudno ar arfordir y gogledd mae llinell Dyffryn Conwy’n mynd trwy dref farchnad Llanrwst, i Fetws y Coed a Dolwyddelan, gyda golygfa draw am gastell Llywelyn Fawr, ac wedyn trwy dwnnel 2 filltir o hyd yn dod allan o dan Lechwedd i gysylltu â Rheilffordd Ffestiniog.

Efallai bydd fforwyr dewrach am gyrraedd mewn caiac ar yr arfordir neu'n cario sach deithio a phabell wrth gerdded Ffordd y Cambrian neu weithio tuag at Wobrau Dug Caeredin.

Yn y car, mae’n well yng ngolau dydd – mae’n gwella po agosaf yr ewch chi. Mae cloddiau’n troi’n waliau cerrig, bryniau’n troi’n fynyddoedd creigiog ac yn sydyn reit daw’r arfordir i’r golwg. Efallai ein bod yn anghysbell ond mae prif wythiennau'r A5 a’r A55 yn rhedeg yn agos – 2 awr yn unig o Fanceinion ac ychydig ymhellach o Firmingham.

Unwaith i chi gyrraedd yma rydych chi o fewn both effeithiol iawn o drafnidiaeth gyhoeddus – efallai nad oes yma amlder amserlen drefol ond dim ond i chi gynllunio, dyma ffordd effeithiol o fynd o gwmpas. Mae cerdded yn gweithio’n dda o’i gyfuno â’r rheilffyrdd a cheir disgrifiadau o lawer o deithiau cerdded rhwng gorsafoedd mewn llyfrau a thaflenni. Mae trenau a bysiau, gyda Thocyn Crwydro Gogledd Cymru, yn ffyrdd gwych o gyrraedd canolfannau poblogaidd prysur heb lygredd ceir a ffwdan parcio.

Os ydydch eisio mwy o gwybodaeth ynglyn ag amseroedd bysiau a trenau lleol cysylltwch a Traveline Cymru 0871 200 2233 neu ymweld a www.traveline-cymru.co.uk neu safle Bws gwynedd.

Cliciwch yma i gweld map trafnidiaeth...