English

Canon Cerrig- ("a blast from the past") Ffrwydrad o'r Gorffenol


llyn y garnedd

Cerddais y llwybr yma droeon, a bob amser mae rhywbeth newydd i’w nodi neu i’w deimlo.  Heddiw mae gennyf gyfeirnod grid er dod o hyd i leoliad manwl ffrwydrad o’r gorffennol.

Agorwyd y Rheilffordd ym 1836 gan ddefnyddio llif disgyrchiant i’w bweru - gollwng brêc y wagen a byddai’r olwynion rhydd yn mynd a hi pob cam i lawr i’r arfordir.  Defnyddiwyd ceffylau i dynnu’r wagenni gwag yn ôl i’r Blaenau.  Ychydig i’r ochr orllewinol o gronfa Tanygrisiau, arferai’r wagenni fynd ar eu fyny, un ar y tro, yn cael eu codi gan olwyn ddŵr.

O’r diwrnod cyntaf i’r rheilffordd agor, roedd y rhan yma iddi’n atalfa, ac fe gychwynnwyd y gwaith ar y twnnel Moelwyn cyntaf, yr hwn sydd nawr wedi ei foddi gan y gronfa.  Chwe blynedd yn ddiweddarach, fe agorwyd y twnnel, a rhedai’r wagenni gan ddisgyrchiant pob cam at y môr.

Ychydig lathenni oddi ar yr hen lein a redai ar ei fyny ceir slab o garreg yng nghanol y grug a’r glaswelltau gwyllt.  Mae’n debyg i unrhyw damed o garreg gyffredin arall heblaw bod 17 o dyllau wedi eu drilio iddi.  Nid gan declyn pŵer wedi ei yrru gan gywasgwr, ond drwy ddrilio hen ffasiwn gyda llaw ac ebill, pum modfedd i’r gwenithfaen solet.

Nid safle addysgu chwarelwyr ifanc mo hwn, ond canon carreg i’w danio ar achlysur arbennig.  Byddai’r tyllau’n cael eu llenwi’n rhannol gyda phowdwr du, a’u gorffen gyda cherrig wedi eu malu’n fân (“stemming” yn Saesneg), ond trwyddo byddai cwilsyn gŵydd, a hwnnw’n llawn o bowdwr du, yn gweithio fel taniwr.  Yn cysylltu’r gwahanol dyllau byddai llinell o saim gŵydd a rhagor o bowdwr du.  Tanio’r ffiws, sefyll yn bell yn ôl a mwynhau’r sioe.

Dim digon o “stemming” a chafwyd clec bitw.  Os byddai’r “stemming” wedi cael bacio’n rhy galed, yna gallai’r garreg gael ei chwalu’n ddarnau mân.  Bu llawer o ddamweiniau.  Roedd rhaid i gytbwysedd y cynhwysion fod yn iawn.

Rydym yn gwybod fod y canon neilltuol hwn wedi ei danio pan agorwyd y rheilffordd gyntaf, ac wedyn ym 1842, wedi cwblhau’r twnnel.  Dim ond un o lawer o rai eraill yw hwn.  Trwy Wynedd, mae dros ddau gant a hanner o’r rhain wedi cael eu cofnodi.

Tudalen nesaf...