English

Ras y Moelwyn - 3 copa 3 Jeli Beibi


llyn stwlan

Mae Ras y Moelwyn yn ras fynydd llafurus o Flaenau Ffestiniog dros dri chopa - Moelwyn Mawr, Moelwyn Bach a Moel yr Hydd.  Mae’n ddeg milltir a hanner, a chodai i uchder o 2,800 o droedfeddi.
Roeddwn wastad yn awyddus i redeg ras mynydd, ond roedd cael rhedeg un ar stepen ddrws fy hun yn apelio’n arw.  Mae’r term “fell running” yn swnio’n rhy debyg at dirwedd yr Yorkshire Dales i mi, mae “rasio mynydd” yn gweddu’n well yma.

Wrth gofrestru, gallwn weld nad oedd hyn am fod yn rhodiad hamddenol.  Fy mwriad yw cwblhau’r cwrs ond mae’r awyrgylch yn gystadleuol, ond hefyd yn gyfeillgar.  Edrychai’n botel ddŵr plastig allan o’i le yng nghanol y “bum bags” pwrpasol a’r paciau milwyr.  Dywedodd un o’r rhedwyr profiadol wrtha’i am ei adael ar ôl, gwell yfed yn drwm cyn y ras meddai, a pheidio anghofio mynd i’r tŷ bach.  Awgrymodd hefyd mai “shorts” fyddai orau, ond dim ond trowsus llaes sydd gennyf.

Fel daw’r amser cychwyn yn nes, mae  llawer o redeg i fyny ac i lawr y cae, (mae’n rhaid eu bod wedi gorfwyta ar fwydydd ynni uchel), a phobl yn sgwrsio am gystadlaethau mewn gwahanol rannau o’r wlad.  Roedd tua 120 ohonom yn ymgasglu wrth y llinell gychwyn.  Doedd dim gwn, dim “barod, paratowch, ewch”, dim ond swyddog yn nodio’i ben, a heb ymwthio, dechreuodd pawb symud, rhai yn gynt nac eraill.

Prin fy mod ar y blaen yn y cychwyn, ond i ffwrdd a fi gyda chamau cadwrol (h.y. i gadw’n ynni).  Roedd yn grêt dal i fyny gyda’r gweddill wrth i bawb hel i wasgu drwy gatiau cul a thros gamfeydd.  Yn fuan wedyn, roeddem ar y tir agored, a rhuthrai’r talentog am y gorwel.

Doedd hynny’n ddim i boeni amdano, nid wyf yn meddwl am y diwedd, am y foment yn unig.  Ymarferiad mewn ewyllys rhydd yw hyn, mi redaf at y garreg nesaf ac wedyn penderfynu os af ymlaen.  Mewn talpiau bach, nid yw’r rhagolwg o beth sydd i ddod mor arswydus.

Tudalen nesaf...