English

Portmeirion


statue portmeirion

Os yw’r Eryri’n fyd gwahanol, mae hynny’n sicr yn wir am Bortmeirion, gyda’i lliwiau pastel llon yn cyferbynnu â’r creigiau garw a llanw a thrai’r môr dros y traethau maith. I lawr dyma fan cysegredig i’r gyfres teledu The Prisoner, sy’n dal yn enwog ddeugain mlynedd ar ôl y bennod olaf. Mae’r cotiau ysgafn ag ymylon gwyn, fel rhai Patrick McGoohan, ar werth yn Rhif 6!

Mae cerdded yn araf o gwmpas y llu o lwybrau troed a’r pentref fel bod ar daith ddarganfod, mae pethau rhyfedd a diddorol ym mhob man. Strwythurau a wnaed gan ddyn yn gwthio allan o’r cerrig neu wedi’u hadeiladu o gwmpas boncyffion a gwreiddiau coed - er eu bod mor od mae’r cyfan yn cydweddu â’i gilydd.

Mae sŵn yn teithio’n bell ar draws dyfroedd gwastad yr aber a sŵn y tonnau’n torri’n cario’n bell ar yr awel o’r gorllewin. Mae’r planhigion toreithiog, trofannol bron, ar hyd y llain arfordirol hon yn tystio i effaith dwymo Llif y Gwlff   – coctels a phalmwydd ar noson dwym o haf a sŵn ceiliogod y rhedyn yn canu ac arogl ffres y môr.

Bydd llawer o bobl yn dewis priodi ym Mhortmeirion ac mae’n lle gwych am wyliau bach beth bynnag yw’r achlysur.  Yn ogystal â gwestyau crand, mae digonedd o ddewisiadau hunanarlwyo, neu gallwch ymweld ar daith ddiwrnod - dim ond yn filltir ar droed o Reilffordd Ffestiniog neu daith bws o Borthmadog. Os ydych ar hast, gallwch ddefnyddio’r hofrenfa.

Os ydych eisio gwybod mwy, yna cliciwch yma i ddarllen 'Aberdwyryd'

Cliciwch yma os ydych eisio ymweld a gwefan Portmeirion...