Plas Tan y Bwlch
Mae 15 parc cenedlaethol ym Mhrydain, ac Eryri oedd un o’r rhai cyntaf i gael ei greu ym 1951. Ar wahân i Ardal y Brigau (Peak District), dyma’r unig un i gael canolfan hyfforddi broffesiynol. Lleoli’r hwn ym Mhlas Tan y Bwlch, sy’n cyfieithu i’r Saesneg fel, “the mansion beneath the pass”.
Mae’r hyn a welwn o’r Plas heddiw yn ganlyniad i’r ail-adeiladu sylweddol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae ei hanes yn mynd yn ôl llawer ymhellach. Cafodd y tŷ cyntaf ei adeiladu yn ystod blynyddoedd cynnar yr ail ganrif ar bymtheg.
Priododd William Oakley, cyn-faer Yr Amwythig, i mewn i’r teulu, ac roedd y cyntaf o sawl “William Oakley” ac fe’i cofiwyd fel yr “Oakley Mawr”. O dan ei stiwardiaeth ef, cafodd y gors llanw ei ddraenio, codwyd cloddiau llanw a greodd glytwaith o borfeydd hardd y naill ochr i’r Afon Dwyryd troellog. Bu farw’n 1811 ar ôl iddo sefydlu’r teulu fel un o’r prif berchnogion o fewn y diwydiant llechi. I’r fath raddau fel derbyniodd ei fab, William Griffith Oakley, breindal o £25,000 fel rhan o ddeg y cant o’u gwerthiant llechi yn y flwyddyn 1825 - i’w gymharu ag enillion heddiw, mae’n werth y swm anferth o £20 miliwn.
Etifeddodd ei nai bedair blwydd oed, William Edward Oakley, yr ystâd yn y flwyddyn 1835 ond roedd bron yn ddeugain erbyn iddo gymryd rheolaeth o’r ystâd oddi wrth ei fodryb “rhyfedd”. Yn ogystal ag ailadeiladu’r Plas, benthycodd symiau mawr o arian i brynu rhagor o chwareli ac i adeiladu rhan helaeth o bentref Maentwrog. Roedd yn amser drwg i fod yn rheoli. Wedi blynyddoedd o dyllu agorydd enfawr ym mynyddoedd Ffestiniog, bu cwymp anochel, “y Gwymp Fawr” ym 1882, pryd y disgynnodd chwe miliwn tunnell o gerrig i mewn i chwareli amrywiol yr ardal. Yn ffodus, ar y Sul y digwyddodd, a chafodd neb ei ladd. Roedd adennill o hyn, gyda’r farchnad lechi’n dirywio, a’r llog ar y cyfalaf anferth a fenthycwyd yn ddaliadwy, yn amhosib. Hyn heb son am gadw ei fab gwamal “Teddy”, Edward de Clifford William Oakley mewn pres, wrth i hwnnw chwythu ffortiwn yng nghlybiau gamblo Llundain a Monte Carlo.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg diweddar, roedd y Plas yn dipyn o le, yn un o’r tai cyntaf gyda thrydan a gynhyrchwyd gan olwyn Pelton. Cyflenwai “ystafell fatri gyda phum deg naw o gelloedd”. Cafodd y golygfeydd eu trin yn ofalus gyda dim ond yr eglwys, ac nid un o gapeli Maentwrog i’w gweld - roedd yr eglwys i’r cyfoethog, neu’r Saeson, a’r capeli i’r gweithwyr cyffredin Cymraeg. Yr ochr arall i’r cwm ar lechwedd serth o goed derw, plannwyd y llythrennau WEO gyda chonifferau - meant wedi diflannu ers talwm ond gallwch ddal i weld y bylchau. Bu criw o ddeuddeg garddwr yn gofalu am y gerddi a arferai gyflenwi ffrwythau a llysiau i’r tŷ teuluol yn Grosvenor Street, Llundain.


