English

Sgwarnog Niwclear a'r Crwban Hydro


water to the sea

Mae’r orsaf bŵer hydro ym Maentwrog wedi bod yn cynhyrchu trydan ers 1928, a bwriedi’r iddi barhau i weithio tan 2088.  Dim ond hanner ffordd drwy ei hoes gwaith mae’r orsaf felly!  Mae hyn yn cymharu’n dda gyda’r chwech ar hugain o flynyddoedd o fodolaeth yr orsaf bŵer niwclear uwchben yn Nhrawsfynydd, ac nad fydd wedi ei llwyr ddigomisiynu tan 2098!

Cafodd gorsaf Maentwrog ei hadeiladu gan y North Wales Power and Traction Company, a gododd orsafoedd hydro yn Nolgarrog a Chwm Dyli, rhwng Capel Curig a Beddgelert hefyd. Pam “Traction”?  Yn 20au cynnar y ganrif ddiwethaf, roedd gan y cwmni gyfrannau rheolaethol yn Rheilffyrdd Ffestiniog, Ucheldir Cymru (neu Lein Fach Beddgelert), a Thrên Bach yr Wyddfa, a’r bwriad oedd cyflenwi trydan iddynt.

Pan agorwyd yr orsaf, roedd ganddi’r gallu i gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi Gogledd Cymru i gyd.  Erbyn heddiw, rydym yn defnyddio llawer mwy o drydan, ac mae’r orsaf bellach ond yn gallu cyflenwi’r ardaloedd o amgylch Blaenau Ffestiniog, Porthmadog, Dolgellau a Harlech.

Fel yr oeddwn yn cerdded o’r maes parcio i’r fynedfa, mi roedd rhywun wedi pwyso’r botwm oedd yn rhyddhau’r dŵr, a gellid clywed ei fwrlwm enfawr wrth iddo ruthro’i lawr y bryn i’r tyrbinau.  O’r adeg yma ymlaen roedd y trydan i’n tai yn dod o bŵer y dŵr lleol yn hytrach na’r grid cenedlaethol anhysbys.

Daw’r dŵr i Bwerdy Maentwrog o gronfa Trawsfynydd, sydd mewn aceri, y fwyaf yng Nghymru.  Daw saith deg y cant o’r dŵr o’r Afon Prysor a’r gweddill o rwydwaith o ffosydd sy’n ehangu’r ardal ddalgylch i dri deg a phump o filltiroedd sgwâr.

Yn ddibynnol ar faint o wlyb ydi’r ddaear, dylai un fodfedd o law gyfartalu i ddeunaw modfedd ar fur yr argae.  Gallai pob modfedd yn y gronfa olygu dwy awr o gynhyrchu, ac mewn blwyddyn gyda’r cyfartaledd glawiad arferol, mae digon i gynhyrchu am wyth awr pob dydd.

Codwyd ac ehangwyd muriau’r argae ym 1958, pan adeiladwyd yr unig orsaf niwclear fewndirol ym Mhrydain.  Rhaid oedd i’r adweithyddion gael tri deg a phump o alwyni o ddŵr pob munud rhag iddynt orboethi!

Mae ynni hydro’n gyfalafol gostus ond yn isel mewn costau rhedeg a llafur.  Erbyn heddiw, dim ond saith sy’n cael eu cyflogi yno, yn gweithio shifft dydd o Lun i’r Wener.  Os bu angen cychwyn, neu stopio cynhyrchu ar y penwythnos, yna gellir gwneud hyn o bell ar liniadur rheolwr yr orsaf dros ffôn symudol.

Tudalen nesaf...