Mwy o atyniadau
Mae ansawdd ein pysgota’n enwog ar hyd y lle ac ers 2004 rydym wedi gwylio gweilch y pysgod yn plymio ar gyflymder o 50 milltir yr awr i’r dŵr i ddala brithyllod a hyrddiaid i fwydo eu cywion. Yn ogystal â gwe-gamerâu a thelesgopau pwerus mae tywyswyr brwdfrydig yr RSPB yno i’ch pwyntio i’r cyfeiriad iawn - maen nhw’n arbennig iawn gan mai nhw yw’r unig bâr o weilch y pysgod sy’n bridio yng Nghymru. Y gobaith yw y byddan nhw’n ffurfio cnewyllyn cytref ac mae nythod artiffisial wedi eu hadeiladu i annog rhai newydd i ddod.
Mae Rheilffordd Eryri’n teithio o Gaernarfon drwy Feddgelert ac yn dod i’w therfyn ger nyth gweilch y pysgod ac mae’r gyrwyr yn ymatal rhag ymarfer eu brwdfrydedd i chwythu’r chwiban er mwyn osgoi amharu ar yr adar ar eu nyth. Yn 2011 dylai’r rhan olaf o’r lein i Borthmadog gael ei hagor.
Rheilffordd arall sydd ag enw tebyg yw Rheilffordd Ucheldir Cymru, gerllaw gorsaf y brif linell ym Mhorthmadog. Er nad yw ei thrac yn hir iawn mae’n gwneud yn iawn am hyn fel atyniad etifeddiaeth (y car bwffe lled gul cyntaf yn y byd) a thrwy gynnig llawer iawn o adloniant gwerth yr arian i deuluoedd ifainc.
Y naill ochr i’r traethau y mae Castell Harlech a adeiladwyd gan y Saeson a Chricieth gan y Cymry. I’r rhai mae’n well ganddyn nhw hanes ychydig yn hŷn, mae tomen a beili Normanaidd a adeiladwyd ar ben y gaer Rufeinig, Tomen y Mur, ychydig y tu allan i bentref Trawsfynydd a gerllaw mae Bryn Cader Faner, fath o gôr y cewri bach ond gyda golygfeydd gwell.
Yng nghanolfan etifeddiaeth Llys Ednowain yng nghanol Trawsfynydd mae arddangosfa ddeniadol am y merthyr St. John Roberts a’r bardd Hedd Wynn – dau arwr lleol.





