Cig Oen Morfa Heli
Mae cig oen mynydd Cymreig yn nodweddiadol am fod yn fach, ond yn flasus, ac adlewyrchai hyn ei amgylchedd caled. Mae cig oen morfa heli o’r aberoedd darluniadwy yn bryd arbennig, gyda blas gwahanol a mawr alw amdano yn Ffrainc yn enwedig, a dyma ble cai’r rhan fwyaf o’r cynnyrch ei hallforio.
Darparodd Rick Stein, “agneau pré-salé”, (cig oen morfa heli i chi a fi), i Jacques Chirac yn ystod uwch gyfarfod Eingl-Ffrengig 2001, i ddathlu pen-blwydd y Llywydd. Cafodd statws y Ffrancwr fel archwaethwr ei gwestiynu wrth iddo lowcio lager Almaenaidd gyda’i fwyd - ynteu sarhad coginiol ydoedd?
Ond nid oes rhaid mynd i Ffrainc neu Stryd Downing i’w werthfawrogi. Gallwch ei brynu gan eich cigydd lleol neu drwy archeb bost er, mae’n rhaid i hyn fod yn ystod tymor gwerthu’r wyn, sef o Fehefin i’r Hydref. Wrth gwrs, mae’n debyg na fuasai mor arbennig os byddai modd i’w gael drwy gydol y flwyddyn.
Prynais goes oen morfa heli i’r teulu. Methu disgwyl. Fe gostiodd ychydig mwy na’r arfer, oddeutu deg y cant. Tynnais allan o’r papur lapio a’i hastudio. Roedd yn deneuach na’r disgwyl ac yn dywyllach na’r arfer, gydag ychydig iawn o fraster.
Gan ddilyn yr egwyddor o beidio rhoi sesnin ar fwyd cyn ei flasu, es heb fy arferiad o wasgu darnau garlleg i’r cnawd. Roedd y cig oen yma am fod yn hollol naturiol, heblaw am y sprigau Rhos Mari.
Awr yn y popty ar 200˚C gan ei droi ddwywaith. Pymtheg munud wedyn yn sefyll dan ffoil, ac yna ei gerfio. Llithrodd y darnau oddi ar y gyllell finiog. Yna, ei serfio gyda thatws rhost, ffa ffres, pys a saws mintys oer. Magnifique!
A fuaswn wedi gallu blasu’r gwahaniaeth gyda mwgwd dros fy llygaid? Rwyf yn hoff o feddwl y buaswn. Roedd yn fwy brau na chig oen arferol ac arhosai’r blas yn hirach. Fedrai ddim dweud sut, ond fe roedd yn blasu’n wahanol, efallai fod yr holl ddarnau pleserus yn fwy amlwg.
Beth sy’n gwneud iddo flasu mor dda? Mae’r morfeydd heli yma’n llawn o laswelltau amrywiol fel Corc Carw’r Môr, Lafant Môr a’r Glustog Fair. Swnia’i fel salad cymysg blasus ac ar y sail mae’r, “ydych be da chi’n bwyta”, does dim rhyfedd i’r cig flasu mor dda.
Doedd o ddim yn hallt. Mae glaswelltau fe Spartina, yn oddefgar i’r amgylchiadau hallt oherwydd bod ganddynt chwarennau sy’n gallu ysgarthu’r halen gormodol.


