Gweithgareddau
Both i feicwyr yn y triongl o lwybrau yng Nghoed y Brenin, Betws y Coed a Phenmachno. Lonydd tawel a llwybrau golygfaol ar garreg ein drws gyda chynlluniau cyffrous am feicio i lawr y bryn uwchben Blaenau a llwybrau teuluol o gwmpas Llyn Tanygrisiau.
Mae traeth Harlech yn ddiddiwedd - golygfeydd o’r Wyddfa yn y pellter, ambell i ddolffin, madfallod y tywod prin a chyfrinachgar yn y twyni. Mae cildraethau tywodlyd Borth y Gest yn ymuno â Thraeth y Garreg Ddu, sy’n boblogaidd gyda sgiwyr jet ar un pen a theuluoedd ar y pen arall - mae gallu gyrru ar filltiroedd o draeth yn fantais pan fydd llawer i'w gario.
Y tu ôl i'r twyni yn Harlech mae Royal St Davids, sy’n rhif 73 yn rhestr y Golf Digest o’r Can Cwrs Gorau y tu allan i’r UDA. Mae 14eg twll Porthmadog, sydd ger y traeth ac sydd â’r enw ’Yr Himalayas', yn annhebygol o gael ei anghofio. Ar gyfer golygfeydd a golff anwastad mae Llan Ffestiniog yn edrych i lawr ar y Dyffryn - efallai cewch chi’r cwrs i chi’ch hunan ar wahân i ychydig o ddefaid a sŵn yr ehedydd.
Dringo creigiau ar y clogwyni sy’n wynebu’r de uwch ben Tanygrisiau. Milltiroedd di-ri’ o geuffyrdd a mwyngloddiau tanddaearol. Os am eu harchwilio, mae tywysydd a het galed yn ddefnyddiol.
Mae caiacio a chanŵio’n boblogaidd gyd thaith badlo glasurol o’r porthladd ym Mhorth y Gest at y bont ym Maentwrog ac yn ôl wrth i’r llanw gilio, yn ôl y rhwyfwyr hynafol a aeth â llechi allan i’r llongau ar y môr.
Mae’r pysgota’n wych. Brithyll brown gwyllt mewn llynnoedd yn y mynyddoedd hyd at 2,000 troedfedd (y llynnoedd, nid y pysgod!) Llyn Trawsfynydd, lleoliad cystadlaethau rhyngwladol gyda chychod i’w llogi. Llynnoedd yn byrlymu â brithyll seithliw. Samwn a sewin yn rasio i fyny’r afonydd, mecryll a draenogiaid y môr oddi ar yr arfordir gyda digonedd o grancod yn yr harbwr. Hefyd mae cwrs pysgota â phlu poblogaidd iawn ym Mhlas Tan y Bwlch.
Cliciwch yma i weld rhestr o manylion cyswllt ar gyfer gweithgareddau...



