Cymraeg

Gwaith Powdwr


sunset vale of ffesiniog

Cafodd dau a’r bymtheg miliwn o grenadau ac arfau rhyfel eraill eu gwneud ar safle Cooke’s Explosives Ltd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Erbyn heddiw mae’n warchodfa natur eang a’r wiber ydi’r peth mwyaf angheuol yno.

Mae hanes hir o gynhyrchu ffrwydron ar y safle, gan gychwyn ym 1865 gyda chotwm tanio, yna TNT a llawer o “ffrwydron diogel” eraill ar gyfer y diwydiant mwyngloddio.  Gyda thranc y diwydiant glo Prydeinig, aeth y busnes i lawr, ac fe’i caewyd ym 1995.  Tair blynedd a chwe miliwn o bunnau o ddigomisiynu’n hwyrach, cafodd y safle (Gwaith Powdwr) ei roddi i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.

Mae’r lle’n wych i’w harchwilio, gan ddod a chymysgiad o hanes naturiol a ddiwydiannol ynghyd.  Arferai fod y cyflogwr mwyaf yn yr ardal ar un adeg, gyda 500 o weithwyr yno yn y 1960au, ond heddiw, yr unig weithiwr yno yw Rhydian, y warden, sy’n cael cymorth gan fyddin fechan o wirfoddolwyr.

Bu ffrwydrad enfawr ym 1915, (ymosodiad bwriadol gan y gelyn tybed?), a ddinistriodd yr adeiladau’n llwyr a chafodd y cyfrifoldeb am y safle ei drosglwyddo i’r Weinyddiaeth Arfau Rhyfel cyn cael ei werthu i Cooke’s yn 20au’r ganrif ddiwethaf.

Nodwedd allweddol o’r safle 200 acer yw ei raniad i dri chwm - yn dilyn y ddamwain fawr, cafodd y sustem gynhyrchu ei wasgaru ar hyd y cymoedd er lleihau’r perygl rhag i ffrwydrad mewn un man ymledu i fan arall.

Rhoddwyd yr enw “Klondyke” ar un o’r safleoedd hyn oherwydd bod yr holl beipiau oedd eu hangen i gynhyrchu powdwr oel (nitro-glyserin) yn gwneud i’r lle edrych fel tref yn ystod rhuthr am aur.  Mae’r gwaith peipiau wedi mynd, ond mae un o’r adeiladau allweddol yn parhau i sefyll, sef y Sied Setlo (Settling Shed).  Ymysg pethau eraill ceir yma saith tanc setlo ble roedd gweddillion y powdwr oel yn cael ei dynnu o’r dŵr a ddefnyddiwyd i gadw’r ffrwydron yn oeraidd a sefydlog.

Wrth gymysgu er gwneud ffrwydron, mae’n hanfodol cadw’r cymysg yn oeraidd ac mae’r broses yn cynnwys peipio dŵr o lyn cyfagos gyda gweithiwr yn cadw llygad ar ddeliau’r tymheredd, ac yn addasu rhediad y dŵr fel bod angen.  Nid y gwaith mwyaf boddhaus o bosib, ond er hynny’n ofnadwy o bwysig.  Er mwyn ei gyfforddusrwydd rhoddwyd stôl iddo, ond er ei ddiogelwch, dim ond un goes oedd arni -  os disgynnai i gysgu, buan y deffrai!

Tudalen nesaf...