Cymraeg

Cwmorthin


cwmorthin mine

Roedd y man parcio wrth waelod y llwybr i Gwmorthin yn llawn, a’r glaw yn hyrddio’i lawr, ond ymlaen a fi gyda’m cwfl fel haenen lynu ar gefn fy mhen a’m dillad glaw yn cael eu chwythu o’m blaen.  Cai’r dŵr a ddoi dros ochr y cwm ei chwipio a’i chwistrellu i bobman gan y gwynt.  Dim adar i’w gweld, dim ffermwyr, dim ond defaid gwlybion yn ymochel yn erbyn y creigiau, a’r nentydd yn rasio i ymuno â’r afon.  Codai gymylau o fwg o foncyffion llaith un o hen adeiladau’r chwarel wrth imi sblasio’n ffordd drwy byllau dyfnion i gwrdd â Chyfeillion Cwmorthin.

Criw o wirfoddolwyr o bob rhan o Brydain yw’r Cyfeillion, sy’n rhannu eu cariad at fwyngloddiau, gan archwilio, atgyweirio a chynnal eu rhwydwaith mewnol a’u gwneud yn llefydd gymharol ddiogel i gael ymweld â hwy.  Mae diogelwch yn air rhyfedd i’w ddefnyddio am chwarel gyda’r llysenw “lladd-dy”.  Lladdwyd llawer o fwyngloddwyr yma ym mlynyddoedd diweddar y ddeunawfed ganrif, drwy reolaeth wael, ac yn arbennig, yr arfer o “ddwyn pileri”, sef tynnu tameidiau o’r pileri oedd yn dal pwysau’r mynydd uwchben.  Yn ddiamau, hyn achosodd cwymp mawr 1882 pan ddisgynnodd chwe miliwn tunnell o graig i mewn i agorydd y chwarel hon, a rhai cyfagos ar gyrion Blaenau Ffestiniog.

Rhoddais fy nillad glaw i sychu a rhoi helmed ar fy mhen, gyda golau arni, a’r batri ynghlwm rownd fy nghanol.  Wrth edrych y rhan, dilynais y Cyfeillion at y brif fynedfa i’r chwarel, sef “mynedfa lefel y llyn”.  Yn nhermau chwarelyddol, golygai “mynedfa” geg twnnel gwastad i mewn i fwynglawdd, gyda phropiau a thrawstiau dur yn helpu i ddal pwysau’r mynydd uwchben.  Cwympiad y fynedfa hon rhai blynyddoedd yn ôl oedd y catalydd i gychwyn y grŵp, a dyma oedd ei brosiect cyntaf - sef clirio’r rwbel a gosod cynhalbyst cryfion.  Roedd fy arweinwyr yn brysur yn siarad ger y fynedfa, ond cefais yr awydd i gerdded yn ofalus am grombil y mynydd, yn rhannol i ddianc rhag udo’r gwynt.

A finnau’n 5’8”, anaml fyddai’n taro fy mhen ar y nenfwd, ond mi ddigwyddodd yma, ac roeddwn yn falch o’r helmed.  Pan o dan y ddaear, fe dorrwyd ar yr heddwch a’r llonyddwch gan gynhyrchydd trydan yn curo’i ffwrdd, ond yr hyn oedd yn gwneud yn iawn am y sŵn oedd y gallu i weld y rhyfeddodau tu mewn.  Golygfeydd nas gallai’r cloddwyr oes Fictoria ond eu dychmygu gyda’u goleuadau cannwyll pitw.

Tudalen nesaf...