English

Taith y coetir


vale of ffestiniog

Hanner ffordd i lawr y Cwm, rhwng Plas Tan-y-bwlch a’r rheilffordd y mae Llyn Mair sydd wedi’i amgylchynu gan goetir derw â llwybrau troed hawdd trwyddo. Mae’r cerdded yn hawdd iawn ac yn hwylus i bawb ond eto heb fod mor brysur fel ei fod yn tarfu ar yr heddwch.

Lle da i ddechrau a gorffen taith gylch yw’r caffi ger yr orsaf, lle mae’r trenau’n dod i lawr yn cyfarfod â’r rhai’n dod i fyny.

Dilynwch yr arwyddion i lawr y bryn – ar hyd y ffordd mae yna gerfluniau ac arddangosfeydd yn esbonio prinder a phwysigrwydd y coetir, sut y defnyddiwyd y derw i wneud llongau ac i wneud pyst cnotiog ffensys a fydd yn para am byth. 3 thrawstoriad o foncyff, pob un â throed o faint gwahanol wedi’i gosod yn y top, yn dangos oed cymharol pob coeden - ond peidiwch â phoeni, nid yw’n ddim i ymwneud â’r 3 arth.

Croeswch y ffordd gul i mewn i’r safle picnic lle bydd hwyaid yn aros am dameidiau o dan belen fawr o hadau dant y llew. Dilynwch y llwybrau yn wrthglocwedd o gwmpas y llyn – trowch i’r chwith bob tro a byddwch chi’n iawn!   Ar y pen pellaf mae’r dŵr yn llifo i’r pwll melin a fyddai ar un adeg yn rhoi pŵer i’r felin flawd, y felin a melin lifo a’r tyrbin oedd yn cynhyrchu trydan i’r Plas.

Mae llygod pengrwn, llwynogod a 9 math o ystlum yn byw yma a nifer o adroddiadau heb eu cadarnhau o beled. Mae’r gwanwyn a’r haf yn amser da i weld a chlywed gwybedogion brith, tingochion a theloriaid y coed.

Mae gweilch Marthin, troellwyr mawr a gweilch y pysgod hefyd yn ymweld. Wrth fynd o gwmpas byddwch chi’n gweld llawer o droadau – mae drysfa o deithiau cerdded wrth ochr y rheilffordd ac i lawr trwy’r coed i’r Plas neu’r tafarndai ym Maentwrog. Mae taflenni ar gael o Reilffordd Ffestiniog (yng Ngorsaf Tan-y-bwlch, Porthmadog a’r Blaenau) ac o’r Canolfannau Croeso.

Dyma map teithiau o amgylch llyn mair...