English

Cerdded arfordir


criccieth castle

O’r bont ym Mhorthmadog dilynwch ymyl y cei. Os ydych yn lwcus efallai y gwelwch chi ddyfrast yn dysgu ei chenawon i ddal crancod – cymaint yn haws ar gyfer hyfforddi na physgod cyflym.

Dyma ddechrau llwybr arfordirol Llŷn ond nid oes rhaid i chi fynd 84 milltir! Y tu ôl i'r clwb iotiau heibio iardiau cychod prysur ac ymlaen dros fryn bach gyda thai crand ac i mewn i Borth y Gest.

Mae’n anodd dychmygu’r pentref hwn fel y bu gynt, yn llawn seiri llongau a seiri coed. Pan fydd y llanw'n cilio a’r cychod yn gwyro ar eu hochrau, daw piod môr i brocio â’u pigau, yn chwilota am gocos.
Mae meinciau ar lan y cei, yn ymyl y maes parcio rhad ac am ddim a’r toiledau glân, yn help i sadio ysbienddrychau wrth i chi edrych ar y cyfoeth o adar sy'n elwa ar y traeth draw i Bortmeirion.

Ewch ymlaen heibio'r gaer danddaearol sy'n sefyll fel gwyliwr  dros y bae.  Mae’r cerhyntau’n gwibio heibio gyda seibiant byr pan fydd y llanw’n troi - mae’r bobl leol yn eu cychod hirion Celtaidd pedwar â llywiwr, yn gwybod i amseru eu teithiau'n gywir wrth iddynt hyfforddi ar gyfer regatas.

Gallwch adael y llwybr unrhyw bryd a disgyn i lawr i’r cildraethau a’r traethau cysylltiedig sydd wedi'u hynysu gan greigiau pan fydd y llanw’n uchel. Bydd llawer o’r bobl leol yn mwynhau Dywedir bod gwichiaid yn dda ond maen nhw’n edrych yn rhy debyg i falwod.

Ar draws yr aber mae Castell Harlech yw’r patrwm i ddarpar adeiladwyr cestyll.  Mae’n lle ysbrydoledig i'w archwilio, i chwarae ynddo neu ddal draenogyn môr – popeth sydd orau am draethau a childraethau heb y torfeydd.

Taith ddychwelyd mewn llai na 3 milltir neu o faes parcio Borth y Gest mewn milltir yn unig - cewch chi fynd mor bell neu mor agos ag yr hoffech chi gyda seibiant mewn caffi yn edrych dros y naill borthladd neu’r llall