English

Ras y Moelwyn - y galon a'r ysgyfaint


ras y moelwyn

Ym mis Ebrill bob blwyddyn bydd rhedwyr yn cystadlu yn Ras y Moelwyn, ras dros y copaon. 10 ½ milltir yn codi i 2,800 troedfedd o uchder, mae’r enillydd fel arfer yn cymryd rhyw 80 munud - ond gan mai cerdded rydym ni’n bwriadu ei wneud, cawn ni hepgor y dechrau a chymryd y diwrnod cyfan.

O’r caffi yn Nhanygrisiau dilynwch y llwybr i Gwmorthin, cwm rhewlifol serthochrog. I’r dde mae’r chwarel y galwai’r chwarelwyr ‘y Lladd-dy' arni. I’r chw ith mae llwybr hen dramffordd wrth ochr y llyn a barics y chwarelwyr a hen gapel adfeiliedig a fu’n fawreddog ar un adeg yn edrych drosto. Mae’n rhaid bod rhyw ddewiniaeth yma oherwydd dim ond ers 30 munud rydych yn cerdded ond rydych chi bellach mewn arallfyd.

Mae’r llwybr yn dringo i ragor o gloddfeydd a chroesffordd. I’r dde mae yna lynnoedd llawn brithyll brown a’r Cnicht, a elwir weithiau yn ‘Matterhorn Cymru’. Yn syth ymlaen ac i lawr y llwybr mae pentref Croesor gyda’i gaffi ac oriel gymunedol. Neu trowch i’r chwith ac i fyny i’r Moelwyn Mawr, yr uchaf o’r copaon ar 770m.

Cewch olygfeydd anferth gyda’r Wyddfa’n ymddangos yn agos i’r gogledd, a Chadair Idris i’r de a’r arfordir yn llenwi’r gorwel.
Disgynnwch i esgair arw Craig Ysgafn sy’n edrych dros argae uchaf pwerdy hydro-electrig storfa bwmp gyntaf Prydain. Ar adegau o alw mawr am drydan, tynnir y plwg a bydd y dŵr yn rasio i lawr drwy’r tyrbinau i’r llyn yn Nhanygrisiau.

Ymlaen i gopa’r Moelwyn Bach lle y cewch olygfa wych dros Dyffryn Ffestiniog, y trenau ager bach yn croesi’r Cob i Borthmadog a milltiroedd o draeth tywodlyd gerllaw’r cestyll yng Nghricieth a Harlech.

Wrth gerdded ar hyd wal yr argae mae’n teimlo fel amffitheatr cawr - fyddai Barnes Wallis byth yn cael ei fomiau  i mewn fan hyn! Mae Ras y Moelwyn yn mynd i fyny dros Foel yr Hydd ond os ydych chi’n dechrau blino, mae’r llwybr i lawr ffordd y peirianwyr yn ddigon hawdd ac mae’n dod â chi yn ôl i’r man cychwyn.

Cliciwch i weld fideo am dan geifr mynydd lleol..