Cymraeg

Platfform Campbell


colonel campbell

Wedi ei leoli ar lethrau isaf y Moelwyn Bach, gyda golygfeydd trosodd at y Rhiniogydd ac i lawr yr afon Dwyryd, safai dŷ trawiadol yng nghanol Gwarchodfa Natur Maentwrog gyda Phlatfform preifat ar Reilffordd Ffestiniog.  Mae’n hynafol ac yn un o’r tai preswyl hynaf yng Nghymru, yn dyddio yn ôl i’r bymthegfed ganrif, bu’n gartref i’r teulu Llwyd am dros dri chan mlynedd.  Fel llawer o deuluoedd yr uchelwyr llai, gallant olrhain eu cyndadau’n ôl i Llywelyn Fawr, ac maent wedi gadael eu marc trwy geisio cerfio “Ll” ar siliau derw’r ffenestri.

Craidd yr adeilad yw ystafell y neuadd a fuasai wedi bod yn “agored” o’r llawr o grawiau llechen hyd at drawstiau’r to.  Heddiw, dyma’r neuadd ginio, gyda lle tân digon mawr i rostio bustach ynddo, ac uwch ei ben mae ystafell wely ysblennydd o drawstiau derw a chyplau wedi eu cysylltu â phegiau pren.

Mae gan y rhan fwyaf o dai estyniad diweddar arnynt, ac nid yw hwn yn eithriad.  Wedi ei gysylltu i flaen yr adeilad gwreiddiol mae tŷ llawer uwch a adeiladwyd yn 1630.

Mae’n dda bod y Llwydiaid wedi codi’r estyniad, oherwydd cafwyd gwesteion annisgwyliadwy, mewn ffurf swyddogion Cromwell, a gafodd eu lletya yma yn ystod gwarchae Castell Harlech (1647), tra bu’r milwyr yn lletya yn y cwm islaw.  Cafodd y seler o dan y tŷ newydd ei ddefnyddio i gadw carcharorion ar eu ffordd i’r carchar yn Ffestiniog.

Enw’r tŷ yw Plas y Dduallt, sy’n dipyn o lond ceg i ddysgwyr Cymraeg, ond sy’n cyfieithu’n syml i’r “House on the Black Hillside”.  Cyfeiriodd y gwerthwr tai at rhai creigiau o gerrig duon, ond ers hynny, clywsom fod yr enw’n cyfeirio at bethau mwy arswydus……  Yn y dyddiau a fu byddai pobl yn fwriadol yn osgoi cerdded heibio’r tŷ wedi iddi nosi.  Gyda Choed y Bleiddiau ychydig funudau i ffwrdd …… gallai’r dychymyg redeg yn wyllt!

Yn ogystal â rhedeg yr ystâd, bu sôn ar led fod y Llwydiaid o Dduallt yn hoff o ddwyn gwartheg oddi ar y Porthmyn.  Mae hefyd sôn am rywfaint o wallgofrwydd yn y teulu, ac mae’r goeden deulu yn “Griffith’s Pedigrees” yn cyfeirio at sawl ddisgynnydd fel “hurtyn” - sef “idiot”.  Parhaodd y Llwydiaid fel perchnogion y Dduallt hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pryd, yn ôl cronicler lleol, “oherwydd arferiad y Cymry o gyfreithio’n ormodol, tarodd y teulu ar gyfnod o galedi”.

Tudalen nesaf...

www.campbellscottage.co.uk