Bwyd a diod
Bydd llysieuwyr am fynd heibio’r paragraff hwn. Ar y mynyddoedd gwelwch ŵyn yn pori ym mhob man a bustych eidion Duon Cymreig - mor flasus, yn aeddfedu’n araf ar gyflymder naturiol. Yn un o fwydydd arbennig yr ardal yw cig oen y morfeydd heli. Mae’r ŵyn yn pori ar y morfeydd wrth ochr y foryd, ac yn cael ymborth llawn lafant y môr, corn-carw’r môr a chlustog Fair. Os ‘mai defaid yw’r hyn mae defaid yn ei fwyta’ does dim rhyfedd ei fod mor flasus. Nid yn unig yn crwydro’n rhydd ond yn crwydro’n rhydd ger y môr - awyr iach ac ymarfer corff pob llanw a thrai.
Tafarndai’r goets fawr ym Maentwrog - mae mor hawdd dychmygu’r ceffylau’n cael eu ffrwyno neu eu harwain i’r stablau. Y dafarn yn Llan Ffestiniog, a brynwyd gan gwmni cydweithredol dan arweinyddiaeth Mel Goch: ‘Mae tafarn yma ers 1726, yn fan yfed pwysig i’r porthmyn cyn croesi’r gweunydd.’ A dyma lle roedd y criw yn ffilmio fersiwn Roman Polanski o Macbeth yn mwynhau peint neu ddau. Dark Side of the Moose a chwrw arbennig yr hydref, Bog Myrtle Stout, yw dau o gyrfau poblogaidd bragdy’r Mŵs Piws ym Mhorthmadog.
Mae caffis stryd yn y Blaenau a Phorthmadog yn fannau gwych i wylio pobl. Caffis yn Nhanygrisiau a Than-y-Bwlch yw’r lleoedd delfrydol i gerddwyr gael hoe o’r cerdded. Hufen iâ Cadwallader neu bysgod a sglodion ar fainc ger yr harbwr. Macrell ffres wedi’i ddal a’i goginio ar y traeth.
Mae cyw iâr bocs mwg yn fwyd arbennig ar y rheilffordd –y cyw iâr a thatws pob eu lapio dair gwaith mewn ffoil a’u coginio yn y bocs mwg ar flaen yr injan. Ychydig o siyntio a 13 milltir yn ddiweddarach, gyda thun o grefi, mae’n wledd i’r gyrwyr. Nid yw hynny ar y fwydlen ond mae ‘brecwast ar raw’ taniwr ar gael yn Rheilffordd Ucheldir Cymru.
Mae rhywbeth at bob dant ond os ydych yn gwneud cinio pecyn yn y Blaenau mae’r siop fara’n gwneud ‘pastai Cwrdaidd’ arbennig.


