English

Ble i aros?


plas y dduallt

O fewn Bro Ffestiniog a Phorthmadog mae dewis eang, o lety mewn hostel am £19 y noson, gyda lle i gadw beiciau’n ddiogel, i wely a brecwast mewn swît penty ym Mhortmeirion am £300 – gan gymryd parcio diogel ar gyfer Bentley yn ganiataol.

Mae’ golygfeydd yn wych ym mhobman ac mae’r lleoedd yn llawn cymeriad, nid wedi’i arosod ond cymeriad go iawn.  Tŷ capten môr neu fwthyn cychwr ym mhentref adeiladu llongau Borth y Gest. Bwthyn wrth ymyl y cei yn edrych dros harbwr Porthmadog gyda'r Wyddfa, y Cnicht a’r Moelwynion yn y pellter. Bwthyn chwarelwr yn Ffestiniog yn edrych i lawr y cwm ar fachlud yr haul.

Gwesty cefn gwlad crand gyda wal ddringo yn y seler – yn boblogaidd gyda grwpiau fel gweithgaredd ar ôl cinio. Arhoswch yn ysguboriau wedi’u trosi plasty 500 mlwydd oed, ar lethrau’r Moelwyn Bach, gyda phlatfform preifat i ddal y trenau stêm sy’n mynd heibio. Gwely a brecwast islaw’r clogwyni yn Nhanygrisiau gyda theithiau cerdded a dringfeydd yn dechrau ar garreg y drws a sawna i hwyluso’ch adferiad gyda’r nos.

 Hen dafarndai'r coetsis mawr, heb y stablau, yn anffodus, ond cysylltiad gyda’r gorffennol a lle da i gwrdd â’r bobl leol. Neu babell wedi’i chodi ar lan yr afon – cyfle gwych i wylio ein bywyd gwyllt a gweld y sêr gwib rhyfeddol, mor hawdd eu gweld: heb lygredd golau, mae’r nos yma yn wirioneddol dywyll.

Cliciwch i weld rhestr o llefydd i aros...