Llechwedd
Fel parc thema ond yn fywyd go iawn, yn fwy cyffrous, llawn ysbryd antur ac arloesed. Nid amgueddfa ‘mo hon, dyma lle y byddai ein cydeidiau’n clocio i mewn ar gyfer eu gwaith a chewch weld enghreifftiau o’u hamgylchiadau gwaith, y mathau o swyddi y bydden nhw’n eu gwneud a’r heriau peirianegol oedd yn eu hwynebu. Mae’n chwarel fyw sy’n dal i gynhyrchu cynhyrchion llechi hyd heddiw, er mai dim ond ychydig a gyflogir o gymharu â’r dyddiau a fu, ac mae iechyd a diogelwch yn bwysig iawn a does dim rhaid gweithio 6 diwrnod yr wythnos neu 12 awr y dydd!
Os ewch i mewn i’r ogofâu yn Llechwedd fe ewch i mewn i fyd tywyll y mwynwyr a chewch ddewis dilyn taith trwy’r pwll dwfn neu ddal y trên bach a dilyn tramffordd y mwynwyr ar hyd y lefel. Beth oedden nhw’n ei wneud i lawr yno drwy’r dydd? Ble roedden nhw’n bwyta? Oedden nhw wir yn canu? Wedi dod yn ôl i wyneb y ddaear cewch weld arddangosfeydd o hollti a thrimio llechi i’r maint iawn cyn eu rhoi yn y wagenni llechi a’u cludo i lawr y rhiw i Reilffordd Ffestiniog ac i’r byd.
Gallwch weld ‘car gwyllt’, y ffordd fwyaf eithaf o deithio i lawr mynydd, a chlywed fel y defnyddiwyd cloddfa gyfagos i storio cynnwys yr Oriel Genedlaethol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn fwy diweddar, mae tri phâr o frain coesgoch wedi dechrau nythu yn Llechwedd.
Wrth gerdded drwy’r Pentref Fictorianaidd cewch gyfle i gyfnewid eich arian, nid am Euro ond yn ôl mewn amser, ar gyfradd gyfnewid o £2-40 i ddarn chwecheiniog. Cewch lawer am ddarn chwech yn siop da-da Ffestin, a’i silffoedd yn llawn jariau gwydr o losin berwi traddodiadol, a gallwch dorri eich syched wrth far y Miners Arms.
Boed law neu hindda dyma atyniad i bob tywydd – cyfle i’r hen hel atgofion a hwyl ac addysg i’r ifanc.





