Cymraeg

Aberdwyryd


pont brewit

Nid yw’r enw Aberdwyryd yn bodoli ar unrhyw fap, ond gellir dweud sawl stori am geg y Ddwyryd.  Fy ffordd gorau i o agosáu ati, yw drwy redeg yn araf (fel yn y ffilm Chariots of Fire) drwy’r tonnau, i’r gogledd ar hyd traeth Harlech, gyda’r twyni ar y dde, Yr Wyddfa o’m blaen a’r Llŷn yn troi am Iwerddon i’r chwith.

Nodwedd o’n harfordir yw drifft y glannau, gweithrediad ble mae’r tywod yn cael ei wthio tua’r gogledd gan gyfeiriad onglog y tonnau, sy’n creu barrau tywod a chegau afon hardd.

Mae’r aber yn symud yn barhaol gyda’r llanw, a’r trai’n datguddio llwybrau’r ffrydiau a’r afon yn llifo o Ddyffryn Maentwrog.  Dros y dŵr i’r gogledd safai Portmeirion, yn adnabyddus fel lleoliad ffilmio “The Prisoner”, gyda’r balŵn anferth yn adlamu dros y traethellau lleidiog.

Yng nghanol yr aber, ychydig i fyny’r afon, ceir Ynys Gifftan yn ymestyn allan yn herfeiddiol.  Safai gyferbyn â phentref Talsarnau, sy’n golygu, “pen y ffyrdd”, ac sydd wedi bod yn brif fan i groesi’r Ddwyryd ers miloedd o flynyddoedd.  Dangosai fapiau’r Arolwg Ordnans hawl tramwy gyhoeddus o’r de, ond yn rhybuddio am berygl llanw’r aber.  Nid oedd hon o hyd yr ochr hawsaf i fynd ati - ym 1816, fe achosodd tonnau storm i brif lif yr afon newid, a throi cyfeiriad i’r gogledd o’r ynys.

Bu llwybr ar flaen ochr ddeheuol yr aber er mwyn cyrraedd lletyai anghysbell, ond yn 1927 cafodd ei ysgubo i ffwrdd i’r môr gan don llanw anferth.  Dangosodd cymydog imi, sy’n byw rhai milltiroedd i fyny’r afon yng Nghrochendy Maentwrog, linell benllanw wedi ei gerfio ar biler llechen yn ei ‘sgubor.  Safai’r llinell hyd at ganol dyn! Tsunami’n taro Cymru.

Cyn dyfodiad y rheilffordd ym 1867, bu gwasanaeth fferi’n cludo pobl o ochr ddeheuol yr aber i Ynys Cyngar ger Porthmadog.  Croesai’r fferi’r Ddwyryd dros Bont Briwat, sy’n tarddu o Breifat, a dyma pam bod rhaid talu toll i’w chroesi!

Mae gan bentref Ynys enw addas, yn eistedd fel ynys uwchlaw’r marc llinell penllanw uchel, wedi ei amgylchynu gan yr aber, y môr a’r gors fawr, ond ers 1806 mae’r gors wedi cael ei draenio gan rwydwaith o ffosydd sy’n llifo allan trwy lociau i’r aber yn ystod drai distyll.  Os edrychwch ar y loc sydd tu allan i’r Warws, a defnyddio eich dychymyg, mae’n hawdd gweld mai hon oedd y ffordd a ddefnyddiwyd gan y cychod i gyflenwi Castell Harlech.  Anghofiwch am y weledigaeth ramantus o longau mawrion yn hwylio at droed y castell, roedd y nwyddau’n cyrraedd ar hyd y Gamlas.

Tudalen nesaf...