English

Dyffryn Ffestiniog


sunset vale of ffestiniog

Yng nghanol Eryri dyma galon y parc cenedlaethol. Mynyddoedd garw ar dair ochr a thraeth tywodlyd ar hyd yr arfordir.

Llechi o Flaenau oedd technoleg ddiweddaraf toi ysgafn – yn aur llwyd. Am flynyddoedd byddai’r pynfeirch yn eu cludo i lawer i’r ceiau ar Afon Dwyryd a byddai’r cychod rhwyfo’n mynd â nhw allan ar y llanw heibio i Bortmeirion i’r llongau oedd yn eu disgwyl allan ar y môr.

Ar y mynydd mae tysteb i ddyfeisgarwch y Fictoriaid. Er cymaint eu tebygrwydd i lethrau sgïo enfawr,  gwelyau parau o dramffyrdd yw’r rhain: byddai pwysau’r wagen yn mynd i lawr yn tynnu’r un wag yn ôl i fyny. Roedden  nhw’n cysylltu â Rheilffordd Ffestiniog a agorodd yn 1836 fel trên disgyrchiant gyda cheffylau’n tynnu’r wagenni gwag yn ôl i Flaenau.

Mae milltir olaf y rheilffordd yn rhedeg ar hyd y Cob, sef arglawdd a adeiladwyd gan William Madocks i ddal y môr yn ôl. Sgil ddatblygiadau naturiol i hyn oedd y porthladd dŵr dwfn ar y pen gogleddol, sef Maddock’s Port a drodd yn Borthmadog, lle mae cychod a badau hwylio bellach yn angori.

Yn y 1860au cafodd y rheilffordd ei moderneiddio ac erbyn hyn mae’n lle poblogaidd i ymlacio neu gael hwyl: mae’n ardal hyfryd i gerdded  ac yn cynnig poeth o droeon yn yr ucheldir a golygfeydd i’r pellter i grwydro’n hamddenol ar y traeth wrth i’r haul suddo y tu ôl i gastell i’r môr.

Llan Ffestiniog oedd yr anheddiad gwreiddiol, mae’n mynd yn ôl i’n dyddiau cynnar ac mae ganddo wreiddiau hir yn ein hanes; Blaenau Ffestiniog yw’r dref fodern a adeiladwyd pan oedd y diwydiant llechi ar ei anterth.

Hanner ffordd i lawr y Dyffryn ceir Plas Tan-y-bwlch – cyn-gartref Teulu Oakley oedd yn berchen ar y chwarel fwyaf ond mae’r plas bellach yn ganolfan astudio yn nwylo’r parc cenedlaethol. Mae’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau o wylio adar i gasglu (a ffrio!) madarch gwyllt.

Mae rhyw hud breuddwydiol ond cyfarwydd i dirwedd Eryri, o bosibl gan mai dyma leoliad cymaint o ffilmiau megis First Knight . Mae’n edrych fel tirwedd o’r oes a fu, pan oedd yn dal heb ei hanharddu gan ddyn. Mae yma le i enaid gael llonydd ac i anadlu awyr sydd newydd chwythu 3,000 o filltiroedd i groesi Môr Iwerydd.

Cododd y Rhufeiniaid gaer yn Nhrawsfynydd ac mae un o’r cerrig gwreiddiol, sy’n nodi bod milwyr Marcus wedi gorffen adeiladu eu rhan nhw o’r waliau, bellach i’w gweld yng nghilbost y dafarn ym Maentwrog. ‘Rwy’n mynd i wneud ychydig o archaeoleg nawr!’

Mae’n boblogaidd iawn fel cyrchfan ers llawer dydd. Dyddiadur yr Arglwydd Lyttleton ym 1776 ....’Ddigwyddodd dim byd diddorol ar ein taith, nes inni gyrraedd Ffestiniog, sydd â’r Dyffryn bertaf a welwyd gennym i gyd ..... gyda’r wraig rydych chi’n ymserchu ynddi, eich ffrindiau mynwesol, a chasgliad da o lyfrau, gallech  fyw yma am oes, heb deimlo fel nad wy mwy na diwrnod wedi pasio.’

Lluniau - @ Hawlfraint (2010) Croeso cymru

Safle wedi dylunio gan Haydn Jenkins